Development and Fundraising Manager
2 days ago
Llanelli
Title: Development and Fundraising Manager \n Organisation: National Botanic Garden of Wales (registered charity no. 1036354) \n Location: Llanarthne, Carmarthenshire, Wales \n Salary: £38-40k \n Reporting Line: Director, National Botanic Garden of Wales \n Level: Sits on the Management Team \n Responsible for: Membership Officer \n Key Relationships: Trustees, Director and Senior Management Team, Donors, \n Funders and Partners \n \n This is an exciting and challenging opportunity to contribute as an important member of a national institution. This role is critical to our charity’s plans for growth and sustainability, working to extend the profile and achievements of one of the most iconic destinations in Wales. The National Botanic Garden of Wales is a world leading centre of excellence for conservation, scientific research, education and sustainability, and is also a leading Welsh visitor destination. \n You are most likely to have an excellent track record and drive to achieve fundraising targets. You will have an understanding and commitment to the botanic garden’s mission. \n You will work with the Director, Trustees, Senior Leaders and charity stakeholders to realise growth and sustainability for the charity. You will be responsible for donor cultivation and stewardship, as well as meeting income targets realised through using various techniques to generate funds from multiple sources, including donations, trusts, foundations, statutory sources, the corporate sector and/or legacies. \n \n OUTLINE DETAILS OF APPOINTMENT \n The appointment will be from the soonest date which can be arranged following necessary pre-employment checks. \n For the full Job Description including essential criteria please visit Work with us - National Botanic Garden of Wales. Only candidates who meet the criteria will be shortlisted for this vacancy. \n Informal enquiries are welcome and should be directed initially to Dr Lucy A. Sutherland, Director: (Lucy.Sutherland@gardenofwales.org.uk; 01558 667106). \n We want to understand your genuine interest in this role and for your written application to accurately reflect your own communication style. Applications that rely too heavily on AI tools can appear generic and lack the detail we need to assess your skills and experience. We do not use AI as part of our recruitment process. \n Applications, in the form of a cover letter and CV clearly showing how you meet the criteria should be sent along with details of two referees to Lorna Lewis (hrmanager@gardenofwales.org.uk). \n Please note references will not be contacted until after an offer is made to a successful candidate. \n The closing date is 18/09/2026. Interviews will follow as soon as practical afterwards. \n \n Teitl: Rheolwr Datblygu a Chodi Arian \n Sefydliad: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (rhif elusen gofrestredig: 1036354) \n Lleoliad: Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, Cymru \n Cyflog: £38-40 mil \n Llinell Adrodd: Y Cyfarwyddwr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru \n Lefel: Yn eistedd ar y Tîm Rheoli \n Yn gyfrifol am: Y Swyddog Aelodaeth \n Perthnasoedd Allweddol: Yr Ymddiriedolwyr, y Cyfarwyddwr a’r Uwch-dîm Rheoli, \n Rhoddwyr, Cyllidwyr a Phartneriaid \n \n Mae hwn yn gyfle cyffrous a heriol i gyfrannu at sefydliad cenedlaethol yn rôl aelod pwysig. Mae'r swydd hon yn hanfodol i gynlluniau ein helusen ar gyfer twf a chynaliadwyedd, sy'n gweithio i estyn proffil a chyflawniadau un o gyrchfannau mwyaf eiconig Cymru. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ganolfan ragoriaeth flaenllaw yn y byd ar gyfer cadwraeth, ymchwil wyddonol, addysg a chynaliadwyedd, yn ogystal â bod yn gyrchfan flaenllaw i ymwelwyr yng Nghymru. \n Byddwch yn debygol iawn o fod â hanes blaenorol rhagorol ac yn meddu ar y brwdfrydedd i gyflawni targedau codi arian. Bydd gennych ddealltwriaeth o genhadaeth yr ardd fotaneg ac ymrwymiad iddi. \n Byddwch yn gweithio gyda'r Cyfarwyddwr, yr Ymddiriedolwyr, yr Uwch-arweinwyr a rhanddeiliaid yr elusen i wireddu twf a chynaliadwyedd ar gyfer yr elusen. Bydd eich cyfrifoldeb yn cynnwys meithrin perthnasoedd â rhoddwyr a'u stiwardio, ynghyd â bodloni targedau incwm a wireddir trwy ddefnyddio amrywiol dechnegau i gynhyrchu arian o sawl ffynhonnell, sy'n cynnwys rhoddion, ymddiriedolaethau, sefydliadau, ffynonellau statudol, y sector corfforaethol a/neu waddolion. \n \n MANYLION AMLINELLOL Y PENODIAD \n Bydd y penodiad yn dechrau o'r dyddiad cynharaf y gellir ei drefnu yn dilyn y gwiriadau cyn-gyflogaeth angenrheidiol. \n Am y Disgrifiad Swydd Llawn gan gynnwys y meini prawf hanfodol, ewch i Gweithio gyda ni - National Botanic Garden of Wales. Dim ond ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf fydd yn cael eu byrlymu ar gyfer y swydd wag hon. \n Croesewir ymholiadau anffurfiol a dylid eu cyfeirio yn y lle cyntaf at Dr Lucy A. Sutherland, Y Cyfarwyddwr: (Lucy.Sutherland@gardenofwales.org.uk; 01558 667106). \n Rydym am ddeall eich diddordeb gwirioneddol yn y rôl hon, ac am i'ch cais ysgrifenedig adlewyrchu eich arddull gyfathrebu eich hun yn gywir. Gall ceisiadau sy'n dibynnu gormod ar offer deallusrwydd artiffisial ymddangos yn generig a bod yn ddiffygiol o ran y manylion y mae arnom eu hangen i asesu eich sgiliau a'ch profiad. Nid ydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yn rhan o'n proses recriwtio. \n Dylai ceisiadau, ar ffurf llythyr eglurhaol a CV, ddangos yn glir y modd yr ydych yn bodloni'r meini prawf, a dylid eu hanfon, ynghyd â manylion dau ganolwr, at Lorna Lewis (hrmanager@ gardenofwales.org.uk). \n Nodwch na fyddwn yn cysylltu â chanolwyr nes bod cynnig wedi'i wneud i ymgeisydd llwyddiannus. \n Y dyddiad cau yw 18/09/2026. Bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal cyn gynted ag y bydd yn ymarferol gwneud hynny.